Pontio i Flwyddyn 7 

Wrth drosglwyddo i flwyddyn 7 byddwch yn cyfarfod â nifer o wynebau newydd sy’n gweithio mewn amrywiaeth o gyfadrannau amrywiol.  

Er mwyn dod i adnabod pawb yn well beth am ymweld â thudalen ‘Gwybodaeth’ yr ysgol ar ein gwefan. Yno, cewch gyfle i wylio ffilmiau amrywiol wedi eu paratoi gan bob cyfadran er mwyn ymbaratoi tuag at y cam nesaf yn eich addysg.  

https://sites.google.com/hwbcymru.net/pontio-yhr-2020/hafan-home  

Wrth baratoi tuag at drosglwyddo i flwyddyn 7, credwn yn gryf mewn darparu cyfleoedd Pontio. Bydd disgyblion Blwyddyn 6 yn ymweld â’r ysgol unwaith bob hanner tymor er mwyn ymgyfarwyddo gyda gwahanol gyfadrannau o fewn yr ysgol.  

Ar ddiwedd tymor yr Haf fe fydd cyfle i ddisgyblion Blwyddyn 5 ymuno gyda Blwyddyn 6 ar gyfer sesiwn Pontio olaf y flwyddyn.