Rhan annatod o draddodiad ysgol yw balchder yn ei gwisg arbennig ac mae disgyblion Ysgol Henry Richard eisoes yn falch iawn o’u gwisg ysgol.  Credwn ei fod yn gwneud i’r disgybl deimlo yr un mor bwysig ag unrhyw ddisgybl arall a’i fod yn aelod o dîm a chyfundrefn.  Disgwylir i’r disgybl gynnal safon o daclusrwydd a chywirdeb mewn gwisg bob amser.  Ystyrir bod gwisgo’r wisg ysgol yn rhan hanfodol o ddisgyblaeth yr ysgol ac mae’n orfodol i ddisgyblion o flwyddyn 7 – 11. 

Coch a llwyd yw’r prif liwiau. 

Gwisg i fyny at Flwyddyn 6

Sgert ddu hyd y benglin neu 

Trowser traddodiadol du (dim jîns / leggings / jeggings) 

Crys polo – Marl Grey (Trutex) gyda logo’r ysgol 

Crys Chwys – Scarlet (Trutex) gyda logo’r ysgol 

Gwisg Haf opsiynol 

Siorts du wedi teilwrio 

 

Gwisg Ysgol Blynyddoedd 7 i 11

Sgert ddu hyd y benglin 
neu 

Trowser traddodiadol du (dim jîns / leggings / jeggings) 

Crys gwyn (llewys byr neu hir) 

Tei Ysgol wedi’i gynllunio’n arbennig 

Siwmper gwddf V llwyd tywyll (profoma50) gyda llinell coch a du o amgylch y gwddf a logo’r ysgol 

Opsiynol – Blazer du gyda logo’r ysgol 

Esgidiau du 

sanau /teits du 

Gwisg opsiynol Tymor yr Haf 

Crys polo – Coch (Trutex) gyda logo’r ysgol 

 

Cit Chwaraeon Blynyddoedd 7 i 11

Crys polo chwaraeon gyda logo’r ysgol – coch gyda phaneli ochr ddu (100% polyester chwaraeon) 

‘fit’ safonol neu ‘fit’ merched 

Merched – ‘Skort’ gyda logo’r ysgol – coch gyda phaneli ochr ddu (100% polyester chwaraeon) 

Bechgyn – Siorts du gyda logo’r ysgol 

Sanau – ‘hoops’ coch a du 

Esgidiau Ymarfer 

Esgidiau Pêl-droed 

Cit Chwaraeon Opsiynol Blynyddoedd 7 i 11

Hoodie’ gyda logo’r ysgol – du gyda phaneli ochr coch (Polyester/cotwm 

Trowser chwaraeon / tracwisg – du 

Cyflenwyr 

Mae’r wisg ar gael oddi wrth: 

Dillad CIT Clothing 
01970 625288 / 07808174847 
alisonjones.schoolwear@btinternet.com 

a 

GG Designs 

01570 493561 / 07969 295206 

gg.designs@outlook.com  

Cefnogaeth ariannol i brynu gwisg Ysgol 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu’n ddiweddar yr elfen ychwanegol i’r Grant Datblygu Disgyblion (PDG) a gymerodd le yr hen Grant Gwisg Ysgol yn 2018/19. Mae’r grant yn gallu cael ei ddefnyddio i brynu gwisg ysgol, offer, dillad chwaraeon a dillad ar gyfer gweithgareddau y tu allan i’r ysgol o’ch plentyn. Ar gyfer rheiny sy’n mynychu ysgol yng Ngheredigion: bydd disgyblion Derbyn, Blwyddyn 3 a Blwyddyn 10 sy’n gymwys yn derbyn £125, tra bydd disgyblion Blwyddyn 7 sy’n gymwys yn derbyn £200. 

Dilynwch y cyswllt isod ar gyfer mwy o wybodaeth: 

https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/ysgolion-ac-addysg/gwisg-ysgol/