Dechreuir taith addysgol disgyblion Ysgol Henry Richard yn y Meithrin fel y cam cyntaf yn Ffês 1. Yn gyffredinol, derbynnir plant i’r Meithrin yn rhan-amser yn ystod y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. Yn yr un modd, cychwynnir yn y Dosbarth Derbyn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed. Gweler tabl trefniadau cofrestru isod:
|
Oedran |
Dyddiad y mae’n rhaid cyrraedd yr oed priodol |
Dyddiad dechrau |
Rhan amser |
3 |
Awst 31ain |
Tymor yr Hydref |
Rhan amser |
3 |
Rhagfyr 31ain |
Tymor y Gwanwyn |
Rhan amser |
3 |
Mawrth 31ain |
Tymor yr Haf |
Llawn amser |
4 |
Awst 31ain |
Tymor yr Hydref |
Llawn amser |
4 |
Rhagfyr 31ain |
Tymor y Gwanwyn |
Llawn amser |
4 |
Mawrth 31ain |
Tymor yr Haf |
O oed Meithrin hyd at ddiwedd Blwyddyn 2, bydd eich plentyn yn dilyn cwricwlwm Dysgu Sylfaen. Yn ystod y cyfnod yma mi fydd yn astudio’r meysydd canlynol:
Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
Datblygiad Mathemategol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd
Datblygiad Corfforol
Datblygiad Creadigol
Ym mlynyddoedd 3 a 4 cyflwynir y Cwricwlwm Cenedlaethol ar ffurf gweithgareddau thematig a phynciol. Dilynir themâu sbardunol a diddorol ar gylchdro o 2 flynedd. Ein bwriad yw cynnig darpariaeth gyfoethog i bawb sydd ar flaen y gad, gan roi profiadau bythgofiadwy i’r dysgwyr. Caiff y dysgwyr gyfle i fynd ar drip sbardun unwaith y tymor pan fo hynny’n bosibl.
Ym mlynyddoedd 3 a 4 bydd eich plentyn yn astudio’r meysydd dysgu a phrofiad canlynol:
Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Technoleg, Technoleg Gwybodaeth, Astudiaethau Crefyddol, Daearyddiaeth, Hanes, Addysg Gorfforol, Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Celf a Cherddoriaeth.
Arweinydd Ffês 1:- Miss Sioned Davies