Dechreuir taith addysgol disgyblion Ysgol Henry Richard yn y Meithrin fel y cam cyntaf yn Ffês 1. Yn gyffredinol, derbynnir plant i’r Meithrin yn rhan-amser yn ystod y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. Yn yr un modd, cychwynnir yn y Dosbarth Derbyn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed. Gweler tabl trefniadau cofrestru isod: 

 

Oedran 

Dyddiad y mae’n rhaid cyrraedd yr oed priodol 

Dyddiad dechrau 

Rhan amser 

3 

Awst 31ain 

Tymor yr Hydref 

Rhan amser 

3 

Rhagfyr 31ain 

Tymor y Gwanwyn 

Rhan amser 

3 

Mawrth 31ain 

Tymor yr Haf 

Llawn amser 

4 

Awst 31ain 

Tymor yr Hydref 

Llawn amser 

4 

Rhagfyr 31ain 

Tymor y Gwanwyn 

Llawn amser 

4 

Mawrth 31ain 

Tymor yr Haf 

 

O oed Meithrin hyd at ddiwedd Blwyddyn 2, bydd eich plentyn yn dilyn cwricwlwm Dysgu Sylfaen. Yn ystod y cyfnod yma mi fydd yn astudio’r meysydd canlynol: 

Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol 

Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu 

Datblygiad Mathemategol 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd 

Datblygiad Corfforol 

Datblygiad Creadigol 

Ym mlynyddoedd 3 a 4 cyflwynir y Cwricwlwm Cenedlaethol ar ffurf gweithgareddau thematig a phynciol. Dilynir themâu sbardunol a diddorol ar gylchdro o 2 flynedd. Ein bwriad yw cynnig darpariaeth gyfoethog i bawb sydd ar flaen y gad, gan roi profiadau bythgofiadwy i’r dysgwyr. Caiff y dysgwyr gyfle i fynd ar drip sbardun unwaith y tymor pan fo hynny’n bosibl. 

Ym mlynyddoedd 3 a 4 bydd eich plentyn yn astudio’r meysydd dysgu a phrofiad canlynol: 

Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Technoleg, Technoleg Gwybodaeth, Astudiaethau Crefyddol, Daearyddiaeth, Hanes, Addysg Gorfforol, Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Celf a  Cherddoriaeth. 

Arweinydd Ffês 1:- Miss Sioned Davies