Mae Cyngor Iechyd a Lles yr ysgol yn cynnig cyfle i ddisgyblion leisio eu barn ac i weithio gyda staff i hyrwyddo iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol o fewn ein cymuned ysgol. Ein nod yw sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel, yn hapus ac yn cael eu cefnogi i wneud dewisiadau iach. 

Mae aelodau’r cyngor yn cynrychioli dosbarthiadau ar draws yr ysgol ac yn cwrdd yn rheolaidd i: 

  • Drafod syniadau i wella iechyd a lles disgyblion. 
  • Cynllunio a hyrwyddo ymgyrchoedd lles, megis wythnosau ymwybyddiaeth a digwyddiadau chwaraeon. 
  • Gweithio gyda staff i ddatblygu amgylchedd ysgol sy’n gynhwysol, cefnogol ac yn annog ffordd o fyw iach. 
  • Gwrando ar lais y disgyblion a sicrhau bod eu hawliau a’u lles wrth wraidd bywyd ysgol. 

Drwy waith y Cyngor Iechyd a Lles, rydym yn ceisio meithrin diwylliant lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu ffynnu.