Rhan annatod o draddodiad ysgol yw balchder yn ei gwisg arbennig ac mae disgyblion Ysgol Henry Richard eisoes yn falch iawn o’u gwisg ysgol. Credwn ei fod yn gwneud i’r disgybl deimlo yr un mor bwysig ag unrhyw ddisgybl arall a’i fod yn aelod o dîm a chyfundrefn. Disgwylir i’r disgybl gynnal safon o daclusrwydd a chywirdeb mewn gwisg bob amser. Ystyrir bod gwisgo’r wisg ysgol yn rhan hanfodol o ddisgyblaeth yr ysgol ac mae’n orfodol i ddisgyblion o flwyddyn 7 – 11.
Coch a llwyd yw’r prif liwiau.
Gwisg i fyny at Flwyddyn 6
Sgert ddu hyd y benglin neu |
Trowser traddodiadol du (dim jîns / leggings / jeggings) |
Crys polo – Marl Grey (Trutex) gyda logo’r ysgol |
Crys Chwys – Scarlet (Trutex) gyda logo’r ysgol |
Gwisg Haf opsiynol |
Siorts du wedi teilwrio |
Gwisg Ysgol Blynyddoedd 7 i 11
Sgert ddu hyd y benglin |
Trowser traddodiadol du (dim jîns / leggings / jeggings) |
Crys gwyn (llewys byr neu hir) |
Tei Ysgol wedi’i gynllunio’n arbennig |
Siwmper gwddf V llwyd tywyll (profoma50) gyda llinell coch a du o amgylch y gwddf a logo’r ysgol |
Opsiynol – Blazer du gyda logo’r ysgol |
Esgidiau du |
sanau /teits du |
Gwisg opsiynol Tymor yr Haf |
Crys polo – Coch (Trutex) gyda logo’r ysgol |
|
Cit Chwaraeon Blynyddoedd 7 i 11
Crys polo chwaraeon gyda logo’r ysgol – coch gyda phaneli ochr ddu (100% polyester chwaraeon) ‘fit’ safonol neu ‘fit’ merched |
Merched – ‘Skort’ gyda logo’r ysgol – coch gyda phaneli ochr ddu (100% polyester chwaraeon) |
Bechgyn – Siorts du gyda logo’r ysgol |
Sanau – ‘hoops’ coch a du |
Esgidiau Ymarfer |
Esgidiau Pêl-droed |
Cit Chwaraeon Opsiynol Blynyddoedd 7 i 11
Hoodie’ gyda logo’r ysgol – du gyda phaneli ochr coch (Polyester/cotwm |
Trowser chwaraeon / tracwisg – du |
Cyflenwyr
Mae’r wisg ar gael oddi wrth:
Dillad CIT Clothing
01970 625288 / 07808174847
alisonjones.schoolwear@btinternet.com
a
GG Designs
01570 493561 / 07969 295206
gg.designs@outlook.com
Cefnogaeth ariannol i brynu gwisg Ysgol
Mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu’n ddiweddar yr elfen ychwanegol i’r Grant Datblygu Disgyblion (PDG) a gymerodd le yr hen Grant Gwisg Ysgol yn 2018/19. Mae’r grant yn gallu cael ei ddefnyddio i brynu gwisg ysgol, offer, dillad chwaraeon a dillad ar gyfer gweithgareddau y tu allan i’r ysgol o’ch plentyn. Ar gyfer rheiny sy’n mynychu ysgol yng Ngheredigion: bydd disgyblion Derbyn, Blwyddyn 3 a Blwyddyn 10 sy’n gymwys yn derbyn £125, tra bydd disgyblion Blwyddyn 7 sy’n gymwys yn derbyn £200.
Dilynwch y cyswllt isod ar gyfer mwy o wybodaeth:
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/ysgolion-ac-addysg/gwisg-ysgol/