Ffês 2 yw ffês ganol yr ysgol ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 5 i 8. Bydd y disgyblion yn Ffês 2 yn parhau i ddatblygu eu sgiliau gan sicrhau trosglwyddiad effeithiol o flwyddyn 6 i 7. Yn ogystal, dyma’r Ffês bwysig lle rydym yn cael croesawu i’n plith y disgyblion hynny sy’n ymuno â’r ysgol ar gyfer eu haddysg uwchradd.
Yn ystod blynyddoedd 5 a 6, bydd y disgyblion yn astudio’r Meysydd Dysgu a Phrofiad canlynol:
Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Rhifedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iechyd a Lles Celfyddydau Mynegiannol a’r Dyniaethau. Caiff disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 eu haddysgu gan athrawon dosbarth yn ogystal â gan arbenigwyr uwchradd er mwyn cyfoethogi eu profiadau a sicrhau y gallant fanteisio ar holl gyfleusterau Ysgol Henry Richard. Maent yn rhannu amser cinio ac amseroedd chwarae gyda disgyblion Ffês 1.
Yn ystod blynyddoedd 7 ac 8, bydd y disgyblion yn astudio’r Meysydd Dysgu a Phrofiad canlynol:
Cymraeg a Llythrennedd, Saesneg, Literacy ac Ieithoedd Tramor Modern, Mathemateg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Dyniaethau, Celfyddydau Mynegiannol ac Iechyd a Lles. Mae Cwricwlwm Blynyddoedd 7 ac 8 yn eang a chytbwys er mwyn eu paratoi tuag at wneud dewisiadau pwysig pan fyddan nhw yn Ffês 3.
Arweinydd Ffês 2:- Mr Iwan Davies