Prif nod y ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol yw sicrhau bod ein holl ddisgyblion yn cyrraedd eu potensial o fewn awyrgylch gynhaliol. 

Darparwn yn unol â chod ymarfer Cymru ac rydym yn paratoi’n ddyfal tuag at weithredu’r  cod newydd gan sicrhau proffiliau Un dudalen i holl staff a disgyblion yr ysgol a chynnal adolygiadau person ganolog. Rydym yn ymfalchïo hefyd o fod wedi ein achredu’n ysgol Awtistiaeth Gyfeillgar gan ASDinfoWales mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. 

Ymdrechwn i adnabod anawsterau dysgu yn gynnar gan ddarparu cefnogaeth yn ôl yr angen. Mae pob disgybl sydd wedi ei adnabod ar y gofrestr ADY yn derbyn cefnogaeth boed hynny trwy waith grŵp bach neu fynediad at gymorth oedolyn arall yn ogystal ag athro/athrawes o fewn neu y tu allan i’r  dosbarth. Mae gan y tîm cynorthwywyr brofiad helaeth o weithio gyda disgyblion ag amrywiol anghenion ac rydym yn ymdrechu i gydweithio’n agos gyda’r disgybl, rhieni ac asiantaethau allanol i ddarparu’r gefnogaeth orau posibl. 

Mae Hafan yr ysgol ar gael i bawb ac yn cynnig awyrgylch groesawgar i bob disgybl. Cynhelir gweithgareddau ymlaciol mewn awyrgylch dawel adeg egwyl bore a chinio yno ac mae ‘r amrywiol ystafelloedd  o fewn Hafan yn cael eu defnyddio hefyd ar gyfer sesiynau sgiliau bywyd, gwaith cyfrifiadurol a gwaith bugeiliol gyda sicrhau lles a iechyd meddwl iach yn flaenoriaeth. 

Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol ydy Mrs Nia Jakubowski.