Sefydlwyd Clwb Cymreictod (Pwyllgor Cymru) i hyrwyddo’r defnydd o Gymraeg yn yr ysgol ac i drefnu gweithgareddau allgyrsiol i roi lle a chyfle i ddisgyblion ddefnyddio eu Cymraeg y tu allan i wersi. Mae’r pwyllgor yn cynnwys disgyblion blwyddyn 11 a phob blwyddyn rydym yn ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd i arwain. Mae’n braf dweud bod poblogrwydd a gweithgaredd y Pwyllgor yn mynd o nerth i nerth gyda disgyblion yn trefnu gweithgareddau cyffrous ac unigryw bob blwyddyn. 

Un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd y mae’r Clwb Cymreictod yn ei drefnu bob blwyddyn yw Y Cwsg Mawr. Noson ar gyfer blwyddyn 7, lle cânt gyfle i aros dros nos yn yr ysgol. Trefnir gweithgareddau amrywiol trwy gyfrwng Cymraeg fel gemau hwyl, cystadlaethau, helfa drysor, disgo pyjamas a gwylio ffilmiau a rhaglenni teledu Cymru. Mae’n ddigwyddiad poblogaidd bob blwyddyn sy’n llawn hwyl a chwerthin. 

Mae gweithgareddau eraill y Clwb Cymreictod yn cynnwys: – 

Twrnamaint Rownderi

Mae’r twrnamaint yn cael ei gynnal yn ystod tymor yr haf lle mae disgyblion ac athrawon yn dod at ei gilydd ar gae chwarae’r ysgol amser cinio i gystadlu yn erbyn ei gilydd mewn rownderi. 

Clwb Cymreictod

Clwb sy’n cael ei gynnal amser cinio ar ddydd Mercher. Clwb ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 ac 8 unwaith eto yn cael ei redeg gan y Pwyllgor Cymreictod. 

Barbeciw Blwyddyn 5 a 6

Bob blwyddyn mae’r Pwyllgor yn cynnal gweithgareddau yn ystod y barbeciw. Ceir gemau fel bowlio deg, Caffi heb anghofio Ras y Donyts.  

Llun a Groto Siôn Corn

Ers sawl blwyddyn mae’r Pwyllgor wedi bod yn rhedeg y Bwth Lluniau neu Groto Siôn Corn yn ystod y Ffair Nadolig. Cyfle i wisgo i fyny mewn gwisgoedd gwirion a chael tynnu’ch llun gyda’ch ffrindiau a chyfle i ymweld â’r Groto Hudolus.  

Dawns Twmpath

Dyma un o weithgareddau Dydd Gŵyl Dewi. 

Diwrnod Shwmae

Mae’r Pwyllgor yn ymdrechu i ddathlu diwrnodau pwysig fel hyn trwy gofnodi’r diwrnod mewn gwahanol ffyrdd. e.e. ffilm fer / llun. 

Radio Rocio Richard

Mae gan yr Adran Gymraeg orsaf radio ac mae’r Pwyllgor yn aml yn brysur yn recordio cyfweliadau, sgyrsiau a digwyddiadau ysgol er mwyn darlledu ar Gymru.fm. 

Dydd Santes Dwynwen

Bob blwyddyn mae’r Pwyllgor yn cynnal gweithgareddau yn ystod y diwrnod hwn, a’r llynedd, dosbarthodd y disgyblion “Fy Rolo Olaf” i ddisgyblion ac athrawon lwcus. Cafodd y disgyblion gyfle i nodi i bwy yr oeddent am roi eu ‘Rolo Olaf’ a’r Pwyllgor Cymreictodoedd y postmyn.

Diwrnod y Llyfr

Mae’r Pwyllgor yn cynnal Seremoni Gadeirio i anrhydeddu awduron ein hysgol, o Flwyddyn 5 i 11 ar Ddiwrnod y Llyfr. Y dasg i’r disgyblion yw ysgrifennu stori 100 gair yn y ddwy iaith, ac mae’r disgyblion yn cynnal seremoni gadeirio unigryw a gwahanol i’w gwobrwyo. 

Yn ogystal â’r holl weithgareddau uchod, mae’r Pwyllgor yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion sy’n ymwneud â Chymraeg. Daw’r holl syniadau gan y disgyblion ac mae’r ysgol yn ymfalchïo yn y ffaith bod ein disgyblion yn fodelau rôl cystal ar gyfer disgyblion iau’r ysgol.