Mae’r Cyngor DYSGlair yn is-bwyllgor o Gyngor yr Ysgol.
Maent yn bwyllgor Addysgu a Dysgu sy’n sicrhau bod llais y disgybl yn ganolog i ddatblygu addysgu a dysgu ar draws pob oedran.
Bob blwyddyn mae gan y Cyngor DYSGlair eu Cynllun Datblygu eu hunain sy’n gysylltiedig ag un o’n Blaenoriaethau Ysgol Gyfan.
Yn y gorffennol, mae DYSGlair wedi cyflwyno Pedwar Diben y Cwricwlwm Newydd i Gymru i rieni, wedi hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg ledled yr ysgol ac wedi creu ffilm hefyd i rieni ddeall strategaethau Adborth a Marcio Ysgol Henry Richard.
Gwyliwch rai o’u cyflwyniadau yma:-
Ffilm am Adborth yn YHR.
Cyflwyniad i Bedwar Diben y Cwricwlwm Newydd
Ar gyfer 2024 – 2026, blaenoriaeth DYSGlair yw ymchwilio a chyflwyno canfyddiadau ar Addysgu ar gyfer y Cof. Bydd hyn yn cynnwys Teithiau Dysgu o amgylch yr ysgol, cyfarfod ag arbenigwyr addysgeg a chreu ffilm i rannu gwybodaeth am Arfer Adalw a Thechnegau Adolygu gyda’r gymuned ehangach.