Ein gweledigaeth yw sicrhau ysgol gynhwysol sy’n cefnogi pob un dysgwr i lwyddo ar draws ein cwricwlwm mewn amgylchedd hapus, cefnogol ac uchelgeisiol. Mae datblygu a pharatoi dysgwyr i fod yn wybodus a chymryd rhan weithredol yn eu cymunedau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn greiddiol i’r ddealltwriaeth o werthoedd ysgol a gaiff ei hadlewyrchu yn eu dewisiadau yn y dyfodol a gweithredu ein harwyddair “Mewn Llafur Mae Elw” ar bob lefel gymdeithasol a phersonol.
Mae llais ein dysgwyr yn hanfodol trwy gydol eu taith yn yr ysgol hon, gan arwain at gwricwlwm cytbwys ac eang er mwyn meithrin annibyniaeth, hyder a gwytnwch ar gyfer paratoi ar gyfer dyfodol disglair.